SL(6)432 – Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd sy’n ymwneud â marchnata gwin ac arferion gwinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu a chadw gwin a chynhyrchion gwin eraill. Ystyr “gwinyddol” yw ‘yn ymwneud â gwin a gwneud gwin’. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthygl 53 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 dyddiedig 17 Hydref 2018 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad (EUR 2019/33) (“Rheoliad (EU) 2019/33”). Mae’r diwygiad yn mewnosod darpariaeth yn Rheoliad (EU) 2019/33 sy’n gwahardd marchnata cynnyrch gan ddefnyddio’r term “gwin ia” a thermau tebyg (boed yn Gymraeg neu mewn iaith wahanol), onid yw’r cynnyrch yn win sydd wedi ei wneud yn gyfan gwbl o rawnwin sydd wedi rhewi’n naturiol ar y winwydden.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934 dyddiedig 12 Mawrth 2019 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ardaloedd tyfu gwin lle y caniateir cynyddu’r cryfder alcoholaidd, arferion gwinyddol awdurdodedig a chyfyngiadau sy’n gymwys i gynhyrchu a chadw cynhyrchion gwinwydd, isafswm y ganran o alcohol ar gyfer sgil-gynhyrchion a’u gwaredu, a chyhoeddi ffeiliau OIV (EUR 2019/934) (“Rheoliad (EU) 2019/934”).

Mae Rheoliad (EU) 2019/934 yn awdurdodi arferion gwinyddol penodedig. Mae’n ategu Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (EUR 2013/1308) (“Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013”). Mae Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 yn gwahardd y defnydd o arferion gwinyddol anawdurdodedig wrth gynhyrchu a chadw gwin a chynhyrchion gwin eraill.  Mae’r diwygiadau a wneir i Reoliad (EU) 2019/937 gan yr offeryn hwn yn gwneud newidiadau i’r arferion gwinyddol y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu a chadw gwin a chynhyrchion gwin eraill.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau hyn oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

 

Materion technegol: craffu

Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn ail baragraff y rhagymadrodd, ymddengys fod teitl Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 yn anghyflawn. Mae'r geiriau 'dyddiedig 28 Ionawr 2002' ar goll ar ôl y gair 'Cyngor'.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ceir cyfeiriad at 'File 3.4.23 (2023)'. Fodd bynnag, yng Nghod Arferion Gwinyddol yr OIV, y cyfeiriad a geir yn y teitl i ffeil 3.4.23 yw '(OENO 581A-2021 )'. Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau a yw '(2023)' yn gywir ai peidio.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys yr esboniad a ganlyn:

Mae dau ddiben penodol i’r offeryn statudol hwn.

(1) Oherwydd bod y DU yn ymuno â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP), rhaid i 4 llywodraeth ddatganoledig y DU gyflwyno rheolau drwy offeryn statudol i wahardd marchnata gwin fel “gwin iâ” a defnyddio disgrifiadau tebyg oni bai bod y cynnyrch yn win a wnaed o rawnwin wedi'i rewi yn naturiol ar y winwydden yn unig.  Rhaid i’r offerynnau statudol hyn fod mewn grym erbyn 15 Gorffennaf 2024 pan fydd y DU yn ymuno â CPTPP yn swyddogol.

(2) Bydd hefyd yn gwneud newidiadau i'r arferion, prosesau a chyfyngiadau gwinyddol y gellir eu defnyddio wrth gynhyrchu gwin a chynhyrchion gwin eraill ac yn eu cadwraeth.   Mae’r newidiadau hyn yn helaeth.  (Noder – ystyr “gwinyddol” yw ‘yn ymwneud â gwin a gwneud gwin’).

Mae'r offeryn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.  Mae Defra yn llunio offeryn paralel sy’n berthnasol yn Lloegr.  Deellir fod Llywodraeth yr Alban yn llunio ei hofferyn ei hun a fydd yn gymwys yn yr Alban.

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol hefyd yn nodi’r canlynol, mewn perthynas â chynnal asesiad effaith rheoleiddiol:

Mae’r Rheoliadau’n cyflwyno diwygiadau nad ydynt yn addasu’r polisi (na’i effaith) mewn unrhyw ffordd sylweddol; mae’r offeryn statudol yn ymwneud â mân ddiwygiadau technegol sy'n cael eu gwneud i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir i ddarparu hyblygrwydd i fusnesau.  Ni ddisgwylir unrhyw effaith ar fusnesau. 

Mae hyn yn unol â'r polisi a nodir yng nghod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer cynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth.

Gan nad yw’r wybodaeth wedi’i nodi’n benodol yn y Memorandwm Esboniadol, gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau a oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gynnal ai peidio.

Yn ogystal, gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio sut mae’r newidiadau 'helaeth' i'r arferion, y prosesau a'r cyfyngiadau gwinyddol y gellir eu defnyddio wrth gynhyrchu gwin a chynhyrchion gwin eraill ac yn eu cadwraeth yn cael eu hystyried yn fân ddiwygiadau technegol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r holl bwyntiau adrodd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Rhagfyr 2023